SL(6)461 – Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Gwnaed Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023 (“Gorchymyn 2023”) ar 21 Awst 2023 ac mae’n cychwyn darpariaethau penodol o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”).

Mae Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024 (“y Gorchymyn) yn diwygio Gorchymyn 2023 i:

·         Hepgor erthygl 4(d), a fyddai’n dwyn i rym ar 1 Ebrill 2024 ddarpariaethau sy’n ymwneud ag aelod cyswllt staff y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”), a

·         Hepgor erthygl 4(e), a fyddai’n dwyn i rym ar 1 Ebrill 2024 ddiwygiadau i Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac i reoliad 3(4) o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 a oedd yn ganlyniadol ar ddiddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Yn ôl y Nodyn Esboniadol, nid oes angen y darpariaethau hyn ar 1 Ebrill 2024 oherwydd na fydd gan y Comisiwn lawer o staff ar y dyddiad hwnnw, ac oherwydd na fydd Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru wedi’i ddiddymu ar y dyddiad hwnnw.

Y weithdrefn

Dim gweithdrefn.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.

1.     Effaith y Gorchymyn yw gohirio’r dyddiad y daw darpariaethau penodol o Ddeddf 2022 sy’n ymwneud â sefydlu’r Comisiwn a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i rym. Nodwn fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi Datganiadau Ysgrifenedig ar 29 Tachwedd 2023 ac ar 24 Ionawr 2024 a oedd yn darparu diweddariadau o ran y Comisiwn, ond nid yw’r datganiadau hyn yn rhoi eglurhad clir ar fod angen gwneud y Gorchymyn hwn i ddirymu’r darpariaethau cychwyn penodedig yng Ngorchymyn 2023.

Nid ydym yn sicr a yw Aelodau o’r Senedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill wedi cael eglurhad drwy ddulliau eraill. Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro’r rhesymau dros wneud y Gorchymyn, ac yn benodol:

·         Y rhesymau dros unrhyw oedi o ran staffio'r Comisiwn, a

·         Y rhesymau dros beidio â diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru erbyn 1 Ebrill 2024 fel y rhagwelwyd pan wnaed Gorchymyn 2023.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Mawrth 2024